 |
Gwefan grŵp RIGS Gogledd-ddwyrain Cymru - yn ymdrin
â-
threftadaeth ddaearegol Sir Ddinbych, Sir y
Fflint,
Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dwyrain Conwy
|
|
|
|
Ynglŷn â grwpiau RIGS: beth yw
RIGS?
Caiff Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS) eu dewis
am eu pwysigrwydd daearegol lleol a rhanbarthol. Wrth i RIGS gael eu
cofrestru gan awdurdodau lleol, mae’n gymorth i gydnabod pwysigrwydd y
safleoedd Gwyddorau Daear a thirwedd hyn ac yn helpu i’w gwarchod fel y
gall cenedlaethau’r dyfodol eu hastudio a’u mwynhau.
Y safleoedd, a gaiff eu dewis gan grwpiau RIGS yn lleol, yw’r mannau
pwysicaf ar gyfer geoamrywiaeth nad ydynt yn Safleoedd o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a ddynodir yng ngwledydd Prydain yn
gyffredinol ac a warchodir yn statudol.
Mae nifer o grwpiau RIGS yn gweithredu ledled y Deyrnas Gyfunol dan
ambarél UKRIGS, y sefydliad Prydeinig. Yng Nghymru, mae’r
grwpiau sefydledig yng ngogledd-ddwyrain Cymru (NEWRIGS – y wefan hon),
Gwynedd a Môn, a Chanolbarth Cymru yn gweithredu dan y corff
cenedlaethol a adwaenir fel Cymdeithas Grwpiau RIGS Cymru.
Sut y caiff Safleoedd Geoamrywiaeth o
Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS) eu dewis?
Dewisir RIGS am eu gwerthoedd gwyddonol, addysgol, hanesyddol ac
estheteg. Yn aml, gall safle gynnwys nifer o'r categorïau a ganlyn:
• Safleoedd gwyddonol - yn bwysig ar
gyfer ymchwil barhaus yn y gwyddorau Daear;
• Safleoedd addysgol - yn darparu
ystafell ddosbarth ddaearegol awyr agored ar gyfer pobl o
bob oed a gallu;
• Safleoedd hanesyddol - yn dangos
pwysigrwydd daeareg mewn adeiladweithiau archaeolegol a hanesyddol
(e.e. cestyll); yn cydnabod datblygiad daeareg fel gwyddor (e.e.
safleoedd lle y cafodd damcaniaethau allweddol eu datblygu gyntaf), ac
yn cofnodi cyfraniadau nodedig daearegwyr pwysig (e.e. beddau a
chofebau);
• Safleoedd estheteg - yn dangos
pwysigrwydd daeareg wrth i ni geisio deall a gwerthfawrogi rhai o'n
tirweddau a'n golygfeydd godidocaf.
Beth mae aelodau o grwpiau RIGS yn ei
wneud?
Gwirfoddolwyr yn bennaf yw aelodau grwpiau RIGS ac maent yn mynd i'r
afael â nifer o wahanol weithgareddau yn ymwneud â
geogadwraeth. Mae'r rhain yn cynnwys:
• Dewis a chofrestru rhwydweithiau o
Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS);
• Helpu i warchod a chynnal RIGS drwy
gysylltu â chynllunwyr awdurdodau lleol;
• Ymgymryd â gwaith cadwraeth ar
safleoedd, megis glanhau malurion oddi ar frigiadau daearegol, a gwella
mynediad a diogelwch ar safleoedd;
• Helpu i godi proffil geoamrywiaeth a
geogadwraeth ymhlith aelodau o'r cyhoedd, e.e. drwy gynhyrchu taflenni
darluniadol (gweler yr enghreifftiau);
• Arwain teithiau maes a gweithdai ar
gyfer grwpiau lleol.
Sut i ddarganfod mwy a
chymryd rhan
Mae yna nifer o gyfleon i gymryd rhan yng ngwaith RIGS. Does dim rhaid
i chi fod yn arbenigwr mewn daeareg; mae diddordeb arbennig mewn
daeareg, geoamrywiaeth a geogadwraeth yn ddigon. Mae grwpiau RIGS yn
manteisio ar gymorth aelodau o'r gymuned gyfan - gwyddonwyr Daear, pobl
frwd, athrawon, cadwriaethwyr bywyd gwyllt, tirfeddianwyr, cynllunwyr,
a phobl yn meddu ar sgiliau defnyddiol megis gallu cyfrifiadurol a
thechnoleg gwybodaeth, cyfrifyddiaeth a gweinyddiaeth neu unrhyw
brofiad ymarferol arall. Cysylltwch â ni os oes gennych
ddiddordeb!
|
|
|
|