NEWRIGS - Geological conservation in North East Wales

Gwefan grŵp RIGS Gogledd-ddwyrain Cymru - yn ymdrin â-

threftadaeth ddaearegol Sir Ddinbych, Sir y Fflint,

Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dwyrain Conwy


Daeareg gogledd-ddwyrain Cymru: Cainosöig


Y cyfnod Tertaidd (Palaeogen-Neogen): 65-2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Yn ystod y cyfnod Tertaidd cynnar roedd yr hinsawdd yn gynnes iawn ac fe gâi’r creigiau hŷn eu hindreulio’n ddwfn a’u herydu’n barhaus. Efallai nad yw’n syndod mai dim ond hwnt ac yma yng ngogledd-ddwyrain Cymru y ceir creigiau Tertaidd oherwydd yn ystod y cyfnod hwn roedd erydiad yn drech na gwaddodiad. Fodd bynnag, cafodd pantiau bach yn wyneb hindreuliedig Calchfaen Carbonifferaidd Mynydd Helygian eu llenwi â thywod a chleiau yn ystod y cyfnod Neogen. Gelwir y gwaddodion hyn yn ‘ddyddodion poced’. Erbyn hyn, roedd yr hinsawdd yn oerni’n gyflym a bu diwedd ar yr amodau a fu’n gyfrifol am yr hindreuliad trofannol dwfn.

Yn ystod y cyfnod Tertaidd cynnar roedd yr hinsawdd yn gynnes iawn ac fe gâi'r creigiau hyn eu hindreulio'n ddwfn a'u herydu'n barhaus. Efallai nad yw'n syndod mai dim ond hwnt ac yma yng ngogledd-ddwyrain Cymru y ceir creigiau Tertaidd oherwydd yn ystod y cyfnod hwn roedd erydiad yn drech na gwaddodiad. Fodd bynnag, cafodd pantiau bach yn wyneb hindreuliedig Calchfaen Carbonifferaidd Mynydd Helygian eu llenwi â thywod a chleiau yn ystod y cyfnod Neogen. Gelwir y gwaddodion hyn yn 'ddyddodion poced'. Erbyn hyn, roedd yr hinsawdd yn oerni'n gyflym a bu diwedd ar yr amodau a fu'n gyfrifol am yr hindreuliad trofannol dwfn.



Y cyfnod Cwaternaidd: 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd y presennol


Parhaodd yr oeri ysbeidiol hyd ddiwedd y cyfnod Tertaidd ac yna daeth y Ddaear dan ddylanwad pendiliadau hinsoddol cyson y Cwaternaidd, cyfnod pan newidiodd yr hinsawdd yn barhaus rhwng cyfnodau rhewlifol a rhyngrewlifol.

Effeithiodd sawl rhewlifiant ar ogledd-ddwyrain Cymru ond ceir tystiolaeth glir dim ond ar gyfer yr Oes Iâ ddiwethaf neu'r Rhewlifiant Defensaidd, a ddaeth i ben tua 17,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth dwy len iâ benben â'i gilydd yn yr ardal hon: Llen Iâ Cymru a lifai tua'r dwyrain o fynyddoedd Eryri a'r Elenydd, a Llen Iâ Môr Iwerddon a lifai o'r gogledd. Roedd i Len Iâ Cymru, a orchuddiai Fynydd Hiraethog a Bryniau Clwyd, drwch o oddeutu 1 km. Gorchuddiai Llen Iâ Môr Iwerddon arfordir gogledd Cymru, gan lifo'n rhannol i fyny Dyffryn Clwyd a Gwastadedd Sir Gaer. Yn ardal Wrecsam yn bennaf y daeth y ddwy len iâ benben â'i gilydd.

Bu’r llenni iâ yn gyfrifol am ddyddodi llwythi anferthol o’r hyn a elwir yn ‘ddrifft rhewlifol’, sef til (darnau o greigiau yn gymysg ag amgaen gleiog) a thywod a graean ffrwdrewlifol (a ddyddodwyd gan afonydd dŵr tawdd). Dyfnhawyd dyffrynnoedd afonydd Dyfrdwy, Chwiler ac Alun, a oedd eisoes yn bod, gan erydiad tanrewlifol ac ôl-rewlifol.

Crëwyd nodweddion topograffig presennol Mynydd Hiraethog, Bryniau Clwyd ac ardal Wrecsam gan brosesau rhewlifol ac yn yr ardaloedd hyn ceir tirffurfiau rhewlifol nodweddiadol megis peirannau, drymlinau, esgeiriau, pantiau iâ llonydd a thir twmpathog.

Mae prosesau daearegol yn dal ar waith heddiw, hynny yw, yn ystod yr Holosen (a wawriodd tua 11,780 o flynyddoedd yn ôl), epoc diweddaraf y Cwaternaidd. Caiff y dirwedd ei erydu gan y gwynt, dŵr ac iâ. Mae twyni tywod Gronant ac amlinell arfordir gogledd Cymru yn newid yn barhaus dan ddylanwad y gwynt, y tonnau a’r llanw. Cofnodir tirlithriadau niferus, yn enwedig ar hyd yr arfordir ac mewn dyffrynnoedd afonydd, ac mae afonydd a llifogydd tymhorol hefyd yn gweddnewid y dirwedd. Dengys y rhain i gyd fod prosesau daearegol yn rymoedd deinamig sydd wedi llunio’r Ddaear yn ddi-baid am dros 4,500 miliwn o flynyddoedd – a pharhau fydd eu hanes tra pery’r Ddaear.



*******************************************************************************************


Blaenorol:

Palaeosöig Isaf (Ordofigaidd a Silwraidd)
Palaeosöig Uchaf (Defonaidd, Carbonifferaidd a Phermaidd)
Mesosöig (Triasig, Jwrasig a Chretasig)


Cliciwch ar unrhyw gyfnod i wybod mwy!



Geological timescale, 4.5 billion years ago to present day

Uchod: Graddfa amser ddaearegol - nodir rhychwant amser y gorgyfnod Cainosöig


Hummocky glacially-derived landscape, Nannerch

Uchod: Drifft rhewlifol twmpathog, Nannerch, rhwng Mynydd Helygain a Bryniau Clwyd

Limestone pavement, Bryn Alyn

Uchod: Ffurfiwyd y calchbalmant yma ar ôl i iâ grafu'r gwaddodion a'r priddoedd oddi ar wyneb y graig, gan ddinoethi'r Calchfaen Carbonifferaidd. Gyda threiglad amser, mae glaw, sy'n lled asidig, wedi hydoddi'r calchfaen gan greu'r ffurfiau cymhleth, sef y clintiau a'r greiciau fel y'u gelwir, sydd i'w gweld heddiw.