Ynglŷn â Geoamrywiaeth
Ynglyn â Geoamrywiaeth (About Geodiversity)
Term cyffredinol yw geoamrywiaeth am yr amrywiaeth o greigiau,
ffosilau, mwynau, tirffurfiau a phriddoedd sy'n ffurfio ein tirwedd, ac
am y prosesau naturiol sy'n creu'r fath bethau.
Felly, pam mae'n bwysig?
Edrychwch o'ch cwmpas am eiliad. Faint o bethau y gallwch chi ei weld -
nwyddau angenrheidiol eich cartref neu eich ystafell waith - sy'n
cynnwys metel neu blastig, neu a oedd angen ynni i'w cynhyrchu?
Mae'r fath nwyddau yn gynnyrch bioamrywiaeth. Heb brosesau ffurfio
mwynau ym mherfeddion arc folcanig hynafol, ni fyddai'r fath metel
â chopr sy'n dargludo trydan o'r prif gyflenwad trwy'r ceblau ac
i'ch cyfrifiadur. Pe na bai haearn wedi'i grynhoi mewn haearnfeini
gwaddodol ar wely môr bas, gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn
ôl, ni fyddai unrhyw haearn i greu'r dur a ddefnyddiwyd i
gynhyrchu eich tractor. A heb lo, a ffurfiwyd mewn gwernydd trofannol
pan orweddai Cymru yng nghyffinau'r cyhydedd yn ystod y cyfnod
Carbonifferaidd, ni fyddai unrhyw ynni y mae'n rhaid wrtho i gynhyrchu
dur. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd. A phe na bai gennym unrhyw
ddealltwriaeth o ddaeareg, byddai'r rhestr yn fyrrach o lawer!
Mae nifer o ddaearegwyr yn derbyn hyfforddiant yn y sector economaidd
ac yna y gweithio ynddo, gan ddefnyddio eu dealltwriaeth i leoli a
gwerthuso gwaddodion yn cynnwys metelau pwysig neu ffynonellau o ynni.
Maent wedi ennill eu dealltwriaeth drwy gael eu dysgu gan ddaearegwyr
academaidd, sydd wedi cael y profiad o weithio mewn gwahanol feysydd
arbenigol o waith ymchwil daearegol cyn cyflwyno eu gwybodaeth i
eraill.
Er mwyn cyflawni'r gwaith ymchwil hwnnw, fel y gall athrawon arddangos
yr egwyddorion sy'n sail i'w dealltwriaeth ac fel y gall myfyrwyr
ddysgu sut i astudio a dehongli'r wybodaeth sy'n bresennol mewn
brigiad, mae'n rhaid i bob daearegydd dreulio amser yn y maes. Gwyddor
yn seiliedig ar y maes yw daeareg yn ei hanfod hyd heddiw, oherwydd heb
y data crai a gesglir yn ystod gwaith maes does dim i weithio arno: dim
casgliad o ffosilau y mae modd ei ddefnyddio i ail-greu ecosystem
hynafol; dim samplau o greigiau y gellir eu dyddio'n isotopig; dim
sampl wedi'i mwyneiddio i'w phrofi, ac yn y blaen.
Dyna'r rheswm pam mae safleoedd o bwysigrwydd daearegol, fel RIGS, mor
bwysig. Os byth y collwn ein dealltwriaeth o'r creigiau sy'n sail i'n
tirwedd - gwybodaeth a enillir trwy ymgymryd â gwaith maes -
byddai'n gallu tymor hir i gael gafael ar y deunyddiau crai sy'n sail
i'n ffordd o fyw dan fygythiad enbyd.
Gellid synied am y safleoedd sy'n ffurfio'n geoamrywiaeth fel un
ystafell ddosbarth awyr agored, fawr. Maent yn fannau allweddol ar
gyfer hyfforddi ein daearegwyr ifanc, ar gyfer gwaith ymchwil
academaidd a fydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o sut mae'n planed
ni'n gweithio, ac ar gyfer arddangos sut mae'r gornel fach hon o'r
blaned Ddaear wedi esblygu dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd.
Mae'r hanes hwnnw yn stori gyfareddol sy'n peri syndod i aelodau o'r
cyhoedd pryd bynnag a lle bennag y caiff ei hadrodd.
Dyma pam mae geoamrywiaeth yn bwysig.
|
|