Daeareg gogledd-ddwyrain Cymru:
Cyflwyniad
NEWRIGS - Daeareg Gogledd-Ddwyrain Cymru: Cyflwyniad
Mae daeareg gogledd-ddwyrain Cymru yn adrodd stori 500 miliwn o
flynyddoedd o hyd am leidiau dyfnforol wedi'u plygu a'u torri gan
symudiadau daear, am foroedd trofannol bas yn gyforiog o fywyd, am
wernydd yn cynnal cnwpfwsoglau mawrion, am ddiffeithdiroedd poeth ac
anial eang a gâi eu gorlifo'n achlysurol gan fflachlifau, ac am
lenni iâ enfawr a gerfiodd y dirwedd yn y gorffennol lled agos.
Mae'r amgylcheddau cyfnewidiol hyn wedi arwain at greu amrywiaeth o
wahanol greigiau sydd wedi cael dylanwad mawr ar bryd a gwedd ein
tirwedd.
Pan gafodd creigiau hynaf gogledd-ddwyrain Cymru eu dyddodi, gorweddai
Cymru, a oedd yn rhan o ficrogyfandir Dwyrain Afalonia, ym mherfeddion
hemisffer y de. Bu drifft cyfandirol yn gyfrifol am raddol symud Cymru
tua'r gogledd ac i'w safle presennol; ar adegau bu'n rhan annatod o
archgyfandiroedd enfawr nad ydynt yn bod bellach. Erbyn hyn, mae Cymru
yn gorwedd yn agos i ymylon gorllewinol Plât Ewrasia, sy'n dalp o
gramen gyfandirol.
Mae'n gyfleus i rannu hanes daearegol gogledd-ddwyrain Cymru yn bedwar
cyfnod:
Palaeosöig Isaf (Ordofigaidd a Silwraidd)
Palaeosöig Uchaf (Defonaidd, Carbonifferaidd
a Phermaidd)
Mesosöig
(Triasig, Jwrasig a Chretasig)
Cainosöig
(Tertaidd [Palaeogen-Neogen] a Chwaternaidd)
Cliciwch ar unrhyw gyfnod i wybod mwy!
|
 |
Above: Simplified solid geology of NE Wales
|
|