NEWRIGS - Geological conservation in North East Wales

Gwefan grŵp RIGS Gogledd-ddwyrain Cymru – yn ymdrin â

threftadaeth ddaearegol Sir Ddinbych, Sir y Fflint,

Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dwyrain Conwy


Croeso i Dudalen Gartref RIGS Gogledd-ddwyrain Cymru!

Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (Regionally Important Geodiversity Sites [RIGS]) yw’r safleoedd pwysicaf ar gyfer daeareg, geomorffoleg a phriddoedd nad ydynt yn rhan o’r rhwydwaith o warchodfeydd natur a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol arbennig a gaiff eu gwarchod yn gyfreithiol.

Wedi’i sefydlu yn 1993, NEWRIGS (North-East Wales RIGS) yw’r sefydliad rhanbarthol sy’n gyfrifol am hyrwyddo cadwraeth a’r defnydd cynaliadwy o RIGS yn Sir Clwyd (Sir Ddinbych a Sir y Fflint gynt), o ran eu gwerth addysgol neu ymchwil yn y Gwyddorau Daear, a’u gwerth ar gyfer twristiaeth, mewn rhai achosion.

Mae ein gwefan yn cynnig mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd y caiff RIGS eu rheoli a sut y mae grŵp RIGS yn gweithio o fewn fframwaith gwledydd Prydain. Ceir adrannau llawn gwybodaeth am ddaeareg gogledd-ddwyrain Cymru ac am geoamrywiaeth a pham ei fod yn bwysig. Rydym wedi cynnwys llyfryddiaeth ac fe geir cyhoeddiadau y gellir eu lawr-lwytho yn ymdrin ag agweddau o’n treftadaeth ddaearegol, gan gynnwys y taflenni poblogaidd sy’n disgrifio teithiau daearegol o amgylch trefi’r ardal. Gobeithio y byddwch yn mwynhau pori trwy dudalennau ein gwefan, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

Map showing location and sketch-geology of Clwyd

Dylunwaith, gwaith graffeg a chynllun - John Mason
Testun - NEWRIGS

Mae NEWRIGS yn cydnabod cymorth gan y Curry Fund - Cymdeithas y Daearegwyr.