Daeareg gogledd-ddwyrain Cymru:
Palaeosöig Isaf
Y cyfnod Ordofigaidd:
488-443 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Mae creigiau hynaf yr ardal yn dyddio o'r cyfnod Ordofigaidd canol a
diweddar (Llandeilo, Caradog ac Ashgill). Mae'r brig yn cynnwys:
* Strata yng Nglyn Ceiriog a dyffryn Teirw sy'n
ffurfio rhan o ystlys gogleddol Anticlin y Berwyn (plyg ar
ffurf bwa);
* Ystlys deheuol Synclin Llangollen (plyg ar ffurf
bwa wyneb i waered);
* Dwy fewngraig fach (ardaloedd o greigiau hŷn wedi'u
hamgylchynu gan greigiau iau) ar ystlys gogleddol Synclin Llangollen;
* Ardal fach yn Nyffryn Conwy i'r de o Lanrwst.
Mae'r creigiau Ordofigaidd hyn ar ffurf gwelyau o gerrig llaid a
cherrig silt, sy'n cynnwys tyffau folcanig (craig wedi'i ffurfio o lwch
folcanig) ysbeidiol a siliau dolerit (craig igneaidd lwyd tywyll a
chwistrellwyd ar ffurf magma i mewn i'r creigiau amgylchynol). Cafodd y
cerrig llaid a'r cerrig silt, sy'n cynnwys ffosilau megis trilobitau a
graptolitau (anifeiliaid cytrefol bychain a oedd yn arnofio yn y
môr ac a esblygodd yn gyflym, ac felly fe'u defnyddir yn
fiostratigraffig i ddyddio creigiau gwaddod Palaeosöig Isaf), eu
dyddodi mewn basn morol dwfn. Crëwyd y tyffau wrth i gymylau o
lwch gael eu hyrddio fry gan echdoriadau folcanig ffrwydrol a
ddigwyddodd yn ardal folcanig gyfagos Eryri.
Y cyfnod
Silwraidd: 443-416 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Mae'r creigiau Silwraidd yn brigo'n helaeth mewn dwy ardal benodol:
* Mynydd Hiraethog
* Bryniau Clwyd
Mae'r creigiau ar ffurf gwelyau o gerrig llaid a cherrig silt a
ddyddodwyd mewn amgylchedd dyfnforol o fewn basn gwaddodol bach a
adwaenir fel Cafn Dinbych, cafn a oedd yn rhan o fasn mwy, sef Basn
Cymru. Mae'r creigiau hyn hefyd yn cynnwys graptolitau.
Cafodd y creigiau Ordofigaidd a Silwraidd eu plygu, eu cywasgu a'u
ffawtio gan yr Orogeni Acadaidd (cyfnod o greu mynyddoedd) yn ystod y
cyfnod Defonaidd cynnar. Esgorodd y gwasgedd dwys a nodweddai'r broses
hon ar greu adnodd naturiol pwysig mewn rhannau o ogledd-ddwyrain
Cymru, sef llechfaen, craig fetamorffig y mae ei ffurfiant yn broses
gymhleth.
Y cam cyntaf yn y broses hon oedd dyddodi haenau trwchus o laid ar
adegau ar wely môr y cyfnod Ordofigaidd a'r cyfnod Silwraidd. O
dipyn i beth cafodd y rhain eu claddu a'u troi'n welyau o gerrig llaid.
Mae cerrig llaid yn cynnwys digonedd o fwynau clai, sy'n perthyn i'r
teulu o fwynau a adwaenir fel y silicadau dalennog. Mae'r mwyn mica yn
silicad amlwg arall y gwyddys ei fod yn hollti'n rhwydd yn dafelli
tenau. Mae silicadau dalennog yn hollti'n rhwydd o ganlyniad i'w
hadeiledd cemegol, sy'n cynnwys atomau o alwminiwm, potasiwm, silica,
ocsigen a hydrogen wedi'u trefnu'n haenau. Dywedir bod y fath mwynau,
sef crisialau y gellir eu hollti'n rhwydd yn dafelli tenau niferus, yn
meddu ar holltedd perffaith.
Pan ymgasglodd yr haenau hynny o laid ar wely môr y cyfnod
Ordofigaidd a'r cyfnod Silwraidd, roedd y gronynnau microsgopig o
fwynau clai wedi'u trefnu ar hap. Fodd bynnag, dan y pwysau cywasgol
enfawr a nodweddai'r Orogeni Acadaidd, cafodd y mwynau clai eu
hailgrisialu a'u had-drefnu ar ongl sgwâr i'r cyfeiriad o ble
deuai'r gwasgedd. O ganlyniad, roedd y garreg laid bellach yn cynnwys
crisialau silicadau-dalennog dirifedi (â'u holltedd perffaith),
pob un yn wynebu'r un cyfeiriad. Y canlyniad oedd craig a allai
hollti'n dafelli tenau, sef llechfaen.
*******************************************************************************************
Next:
Palaeosöig Uchaf (Defonaidd, Carbonifferaidd
a Phermaidd)
Mesosöig
(Triasig, Jwrasig a Chretasig)
Cainosöig
(Tertaidd [Palaeogen-Neogen] a Chwaternaidd)
Cliciwch ar unrhyw gyfnod i wybod mwy!
|

|
Uchod:
Graddfa amser ddaearegol - nodir rhychwant amser y gorgyfnod
Palaeosöig Isaf.
|

Uchod: Sampl
o ddolerit y cyfnod Ordofigaidd Ganol, craig igneaidd grisialog,
fewnwthiol o Chwarel Hendre, Glyn Ceiriog, ger Llangollen.
|

Uchod:
graptolit ffosiledig yn dyddio o'r cyfnod Silwraidd Isaf, tua x3 maint
cywir. Mae graptolitau i'w cael mewn cerrig llaid Ordofigaidd a
Silwraidd ledled gogledd-ddwyrain Cymru.
|
|