Daeareg gogledd-ddwyrain Cymru:
Mesosöig
Y cyfnod Triasig: 251-199 miliwn o
flynyddoedd yn ôl
Amgylchedd diffeithdir a nodweddai’r cyfnod hwn wrth i’r hinsawdd
gynhesu a throi’n sychach. Mae’r creigiau Permaidd a Thriasig (a gaiff
eu trin gyda’i gilydd yn aml dan yr enw Permo-Triasig) yn cynnwys
gwelyau o gerigos afonol a thywodfeini eolaidd (a chwythwyd gan y
gwynt), oll ac iddynt liw coch trawiadol a achoswyd gan bresenoldeb
ocsid haearn ac sy’n dynodi dyddodiad ar wyneb y tir. Cafodd y
gwaddodion Permo-Triasig eu dyddodi ar wyneb erydog o greigiau
Carbonifferaidd a rhai hŷn yn ystod cyfnod o ffawtio a esgorodd ar
Ddyffryn Clwyd, dyffryndir â ffawtiau o boptu iddo. Gerllaw
gogledd-ddwyrain Cymru, roedd basnau gwaddodol a oedd yn dyfnhau yn
datblygu yn Sir Gaer ac oddi ar arfordir gogledd Cymru: yn y mannau hyn
roedd llynnoedd heli a dilyniannau trwchus o waddodion llynnol.
Bu’r graddiannau geothermol cryfion a oedd yn gysylltiedig â’r
basnau dyfnion cyfagos, ynghyd â’r diriannau tyniannol yn y
gramen leol, yn gyfrifol am greu grym gyriadol a llwybrau y gallai
hylifau mwynyddol eu dilyn. Crëwyd yr hylifau yn nyfnderoedd y
basnau gan allyriad dŵr wrth i waddodion, wedi’u claddu’n ddwfn, gael
eu cywasgu. Esgynnodd yr hylifau o’r basnau ac i mewn i’r creigiau
Carbonifferaidd hŷn ymgodol, ac yn enwedig i mewn i’r calchfeini
Carbonifferaidd Isaf, gan waddodi gwythiennau a chyrff afreolaidd o
fwynau gwerthfawr ar hyd ffawtiau a nodweddion palaeocarstig
(ogofâu).
Y mwyn a waddodwyd yn bennaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd calsit,
ynghyd â mwynau plwm a sinc, sef galena a sffalerit, fflworsbar,
cwarts ac amrywiaeth o fwynau prinnach. Mae'r fath mwyneiddiad i'w gael
mewn Calchfaen Carbonifferaidd mewn mannau eraill yng ngwledydd Prydain
ac fe gyfeirir ato fel mwyneiddiad Math y Penwynion neu'n gywirach
fwyneiddiad Math Dyffryn Mississippi.
Cloddiwyd am blwm a sinc dros ardal eang, yn enwedig yn ystod y
bedwaredd ganrif ar bymtheg, a deuir ar draws olion mwyngloddiau ar
Fynydd Helygain ac yn ardal y Mwynglawdd. Er 1845 (o'r flwyddyn honno
roedd yn orfodol i gofnodi cynnyrch y mwyngloddiau) cynhyrchodd yr
ardal dros 550,000 tunnell o fwyn plwm, 2.4 miliwn owns o arian a dros
300,000 tunnell o fwyn sinc. Mae'n ddiddorol nodi yr aed ati hefyd i
ecsbloetio'n lleol gyflenwadau o fwynau haearn, cobalt, nicel a chopr,
yn enwedig yn ardal Prestatyn, a chopr o amgylch pentref Llanfair
Talhaearn.
Y
cyfnod Jwrasig: 199-145 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Y cyfnod Cretasig: 145-65 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Er
nad oes unrhyw greigiau o'r cyfnodau hyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru,
dengys ardal o greigiau gwaddod morol Jwrasig Isaf gerllaw'r Eglwys
Wen, ychydig y tu hwnt i Glawdd Offa, fod ymsuddiant y basn gwaddodol
hwn a gwaddodiad yn parhau hyd y cyfnod Jwrasig cynnar yn yr ardal hon.
O bryd i'w gilydd, deuir o hyd i ddarnau o sialc (Cretasig Uchaf) yng
ngwaddodion rhewlifol Llen Iâ Môr Iwerdddon yn ardal
Wrecsam, a sialc yw sylfaen gwely Môr Iwerddon mewn mannau. Yn
wir, mae yna dystiolaeth gadarn fod y Môr Sialc wedi ymestyn dros
y rhan fwyaf o wledydd Prydain, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Cymru, ond
yn dilyn 65 miliwn o flynyddoedd o erydiad - yn enwedig wedi'r ymgodiad
sylweddol yn gynnar yn y cyfnod Tetaidd - cafodd y sialc ei sgubo
ymaith dros y rhan helaethaf o Brydain.
*******************************************************************************************
Blaenorol:
Palaeosöig
Isaf (Ordofigaidd a Silwraidd)
Palaeosöig Uchaf (Defonaidd, Carbonifferaidd
a Phermaidd)
Nesaf:
Cainosöig
(Tertaidd [Palaeogen-Neogen] a Chwaternaidd)
Cliciwch ar unrhyw gyfnod i wybod mwy!
|

|
Uchod: Graddfa amser ddaearegol - nodir rhychwant amser y gorgyfnod
Mesosöig
|

Uchod: Gwelyau Cochion: tywodfeini twyni
Permo-Triasig yn brigo ar fin Ffordd Llan-rhudd, Dyffryn Clwyd
|

Uchod: Fflworsbar: crisialau porffor,
hyd at 1.5 cm o ran maint, o wythïen fwynol yn ardal Mynydd
Helygain
|
|
|