NEWRIGS - Geological conservation in North East Wales

Gwefan grŵp RIGS Gogledd-ddwyrain Cymru - yn ymdrin â-

threftadaeth ddaearegol Sir Ddinbych, Sir y Fflint,

Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dwyrain Conwy


Daeareg gogledd-ddwyrain Cymru: Palaeosöig Uchaf


Y cyfnod Defonaidd: 416-359 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Does dim creigiau Defonaidd yn brigo yn unman yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, mewn mannau eraill yng Nghymru ceir brigiadau o greigiau gwaddod cochlyd, a ddyddodwyd o fewn dalgylchoedd afonydd ac mewn llynnoedd dan amodau cras yn aml iawn, sy'n rhoi syniad i ni sut oedd hi yng Nghymru, gan gynnwys yr ardal hon, bryd hynny. Yn wir, mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu fod trwch o greigiau Defonaidd yn ymestyn dros y rhan fwyaf o Gymru ar un adeg ond ers hynny fod y gorchudd hwnnw wedi'i erydu a'i sgubo ymaith.



Y cyfnod Carbonifferaidd: 359-299 miliwn o flynyddoedd yn ôl


Yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd roedd Cymru yn gorwedd yng nghyffiniau'r cyhydedd, o fewn lledredau tebyg i ddalgylch afon Amazonas heddiw.

Cafodd y creigiau Carbonifferaidd hynaf, sef y 'Gwelyau Gwaelodol' coch a elwir yn Ffurfiant Ffernant heddiw, eu dyddodi mewn amgylchedd afonol ac mae'r gwaddodion hyn yn gorwedd yn anghydffurfiadwy (toriad yng ngwaddodiad y dyddodion a all barhau am filiynau o flynyddoedd) ar ben creigiau Silwraidd. Mae'r Gwelyau Gwaelodol dim ond i'w cael o fewn llain denau o dir ar hyd ymyl gorllewinol Dyffryn Clwyd, ger Bae Colwyn yn y gogledd, ac Eglwyseg yn y de.

Yn dilyn dyddodiad y Gwelyau Gwaelodol daearol, cafodd y calchfeini Carbonifferaidd orchuddiol eu dyddodi mewn môr trofannol bas. Mae presenoldeb cwrelau cytrefol ac unigol, braciopodau, crinoidau goniatitau (creaduriaid yn debyg i amonitau) a chregyn deuglawr yn dyst i'r bywyd morol toreithiog. Ffurfiwyd ambell balaeosol (pridd 'ffosil') yn ystod cyfnodau cyfodol, pan ymddangosodd y tir uwchlaw'r môr. Ar yr un pryd, esgorodd gweithgaredd tectonig, sef ffawtio yn bennaf, ar dirweddau uchel ac isel, sydd i gyfrif am y gwahaniaethau o ran trwch rhai gwelyau penodol mewn rhai mannau ledled yr ardal.

Gyda threiglad amser, mynd yn fwy bas fu hanes y môr ac roedd mwy o dywod cwartsitig yn rhan o'r amgylchedd dyddodiadol wrth i ddelta afon ymestyn i mewn i'r môr. Dyma pryd y cafodd Siert Pentre ei ddyddodi yng ngogledd yr ardal. Credir i'r gwaddodyn morol haenog ac anarferol hwn gael ei ffurfio o sbigylau sbyngau a chregyn bychain rheiddiolion (cregyn silicaidd organebau morol bychain). Ar adegau, gorlifodd y môr ar draws y deltâu gan foddi'r tir a gadael ar ôl ffosilau morol, goniatitau yn bennaf, ar ffurf haenau a elwir yn Haenlinau Morol.

Erbyn y cyfnod Carbonifferaidd Uchaf, gwanhaodd y dylanwad morol ar draul yr amgylcheddau pen-delta, a dyddodwyd nifer o ddilyniannau cylchol o gerrig llaid, cerrig silt, tywodfaen, seilbridd (pridd 'ffosil' gwernydd glo) a glo sydd, gyda'i gilydd, yn rhan annatod o'r Cystradau Glo. Y creigiau Carbonifferaidd mwyaf diweddar yw cerrig llaid a thywodfeini coch anffosilifferaidd a ddyddodwyd ar wastatiroedd llifwaddod ac mewn llynnoedd, gwaddodion sy'n dynodi'r newid i'r amodau mwy cras a nodweddai'r cyfnod Permaidd. 



Y cyfnod Permaidd: 299-251 miliwn o flynyddoedd yn ôl


Ar ddiwedd y cyfnod Carbonifferaidd a dechrau'r cyfnod Permaidd roedd cyfnod o ffawtio sylweddol ac ymgodiad, a ddilynwyd gan erydiad yn gysylltiedig â'r Orogeni Farisgaidd. Digwyddodd yr orogeni wrth i wrthdrawiad cyfandirol ddwyn ynghyd gyfandiroedd mawr y byd gan ffurfio un archgyfandir, a adwaenir fel Pangaea. Gorweddai Cymru yn agos at ganol Pangaea ac yng nghyffiniau'r cyhydedd, ac oherwydd ei bod yn bell o'r môr nodweddid y cyfnod Permaidd a'r cyfnod Triasig a'i dilynodd gan amodau cras diffeithdir.


*******************************************************************************************

Blaenorol:

Palaeosöig Isaf (Ordofigaidd a Silwraidd)

Nesaf:

Mesosöig (Triasig, Jwrasig a Chretasig)
Cainosöig (Tertaidd [Palaeogen-Neogen] a Chwaternaidd)


Cliciwch ar unrhyw gyfnod i wybod mwy!



Geological timescale, 4.5 billion years ago to present day

Uchod: Graddfa amser ddaearegol - nodir rhychwant amser y gorgyfnod Palaeosöig Uchaf.


Lower Carboniferous limestone with fossil corals, from near Mold, Clwyd

Uchod: Sampl, wedi'i thorri a'i chaboli, o galchfaen Carbonifferaidd yn cynnwys cwrelau ffosiledig, o Chwarel Cefn Mawr, ger Yr Wyddgrug.

Upper Carboniferous fossil plants from Brymbo, near Wrexham

Uchod: Planhigion ffosiledig mewn carreg laid Carbonifferaidd Uchaf, o Frymbo, ger Wrecsam.